Llofruddiaeth Matalan: Carchar am oes i Andrew Saunders
28/02/2017
Heddiw danfonwyd llofrudd 20 mlwydd oed i garchar am oes ar ôl trywanu ei gyn-gariad, a'i chariad newydd, dro ar ôl dro, wrth iddynt fynd i'w gwaith. Arhosodd Andrew Saunders y tu allan i siop Matalan ar Stryd y Frenhines yng nghanol Dinas Caerdydd cyn lladd Zoe Morgan, 21, a Lee Simmons, 33 ym mis Medi 2016.
Dywedodd Catrin Evans, Erlynydd y Goron Rhanbarthol: "Roedd hwn yn ymosodiad direswm, creulon, a bwriadol.
"Roedd Saunders yn bresennol yn y man ymhell cyn i'r ddau gyrraedd y gweithle gan ymosod arnynt. Ni ddangosodd unrhyw gonsyrn am ei ddioddefwyr, na thuag at y rhai oedd yn gallu gweld yr olygfa frawychus o drais a ddigwyddodd o'u blaen."
"Mae'n meddyliau ni gyda teuluoedd Zoe a Lee."
