Karl Lang yn euog o droseddau rhyw
22/06/2012
Yn Llys y Goron Casnewydd fe gafwyd seicig o Gasnewydd yn euog o dargedu dwy fenyw agored i niwed a’u hargyhoeddi i gyflawni gweithredoedd rhywiol.
Collfarnwyd Karl Lang am gyflawni 12 cownt o beri i fenywod gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol heb roi eu caniatâd.
Clywodd y llys fod Lang wedi targedu'r menywod, a ddaeth ato gan gredu y gallai gysylltu â'u perthnasau ymadawedig. Yna fe aeth ati i'w twyllo i gredu y byddai cyflawni gweithredoedd rhyw yn hybu eu pwerau ysbrydol.
Dywedodd David Watts, Uwch Erlynydd y Goron dros Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru: "Roedd hwn yn achos anarferol dros ben a arweiniodd at y menywod ifanc hyn yn cael eu hecsbloetio mewn ffordd sinigaidd.
"Fe wnaeth Karl Lang gymryd mantais ar ei ddioddefwyr mewn ffordd ddideimlad a llechwraidd. Cawsant eu targedu ar adeg yn eu bywydau pan oeddynt fwyaf agored i niwed.
"Mae pob un o ddioddefwyr Lang wedi bod yn eithriadol o ddewr wrth ddod ymlaen a rhoi gwybod i'r heddlu am yr hyn a ddigwyddodd. Gobeithio y bydd dedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt."
