Gollwng achos yn erbyn protestwyr Meddiannwn Caerdydd
16/03/2012
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau bod yr achos wedi’i ollwng yn erbyn dau brotestiwr a gafodd eu harestio a’u cyhuddo yng ngwrthdystiad Meddiannwn Caerdydd ym mis Tachwedd 2011.
Dywedodd Naheed Hussain, Dirprwy Brif Erlynydd y Goron dros CPS Cymru: "Pan fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn derbyn ffeiliau tystiolaeth gan yr heddlu mewn perthynas ag achos troseddol posib, byddant yn cael eu hadolygu yn unol â'r Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron, sef y canllaw y mae ein cyfreithyddion yn ei ddilyn.
"Er mwyn i ni barhau ag erlyniad, mae'r Côd yn mynnu bod raid cael digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o gollfarn. Rhaid casglu hefyd y byddai'r erlyniad er budd y cyhoedd.
"Yn yr achos hwn, wedi ein hadolygiad daethom i'r casgliad nad oes tystiolaeth ddigonol i roi gobaith realistig o gollfarn ar gyfer y trosedd dan sylw. Roedd y bobl a oedd yn meddiannu'r tir wedi cael cyfle rhesymol i gydymffurfio â chyfarwyddyd i adael ac mae peth tystiolaeth o ddifrod i'r safle.
"Ond, fe ddaethom i'r casgliad nad yw erlyn er budd y cyhoedd yn yr achos hwn.
"Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, rydym wedi rhoi ystyriaeth i'r canllaw diweddar gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus mewn perthynas ag erlyn achosion o brotest gyhoeddus. Dan amgylchiadau'r achos hwn, daethom i'r casgliad nad yw erlyn yn angenrheidiol nac yn gymesur, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith y byddai llys a fyddai'n gwrando'r achos yn debygol iawn o roi cosb mewn enw yn unig petai dyfarniad euog.
"Mae pawb sydd â diddordeb yn yr achos wedi cael gwybod am ein penderfyniad."
