Prif Erlynydd y Goron Cymru yn annerch seminar trosedd casineb

21/05/2012

Mae Prif Erlynydd y Goron Cymru, Jim Brisbane, wedi ailddatgan ymrwymiad y CPS i fynd i'r afael â phob math o drosedd casineb mewn digwyddiad cymunedol yng Nghasnewydd.

Trefnwyd y seminar gan Heddlu Gwent a bu grwpiau cymunedol o wahanol rannau o Went yn mynychu. Cyfeiriwyd at y gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr a thystion gan asiantaethau cyfiawnder troseddol. Bu cyflwyniadau hefyd gan arbenigwyr ar drosedd casineb a phobl y mae trosedd casineb wedi effeithio arnynt.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, fe ddywedodd Jim Brisbane:

"Rydym eisiau gwneud pobl yn fwy ymwybodol o drosedd casineb, a sicrhau cymunedau lleol ein bod yn hollol benderfynol o chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â'r mater.

"Mae'n drist dweud, ond yn aml iawn bydd dioddefwyr trosedd casineb yn goddef y sefyllfa yn hytrach na chysylltu â'r heddlu. Rydym am i bobl wybod nad oes raid iddynt ddioddef yn dawel. Mae'r asiantaethau cyfiawnder troseddol yno i'w cefnogi a dwyn troseddwyr gerbron llys."

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad roedd Kathryn Stone OBE, Prif Weithredwr Voice UK, sef elusen genedlaethol sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu a phobl eraill agored i niwed a gafodd brofiad o drosedd neu gamdriniaeth. Clywodd y seminar hefyd gan Sylvia Lancaster, y lladdwyd ei merch Sophie yn 2007.

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd gan arbenigwyr ar drosedd casineb o Heddlu Gwent, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Pobl yn Gyntaf Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Agorwyd y seminar gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent Jeff Farrar, a ddywedodd:

"Rydym ni yn Heddlu Gwent yn hoffi meddwl ein bod wedi gwneud gwir gynnydd wrth godi ymwybyddiaeth o drosedd casineb, annog pobl i roi gwybod i'r heddlu amdano a mynd i'r afael â'r mater. Ynghyd â'n partneriaid, rydym wedi gweithredu gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr a thystion er mwyn rhoi'r gefnogaeth a'r cyngor angenrheidiol iddynt er mwyn sicrhau, os ydynt wedi profi trosedd casineb ar unrhyw ffurf, y bydd ganddynt ddigon o hyder i roi gwybod i ni."