CPS yng Nghymru yn tynnu sylw at droseddau yn erbyn pobl hyn

05/03/2012

Does dim amheuaeth nad oes digon o bobl yn ein cymdeithas yn rhoi gwybod i’r heddlu am droseddau yn erbyn pobl hyn. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru yn benderfynol o weithio ochr yn ochr â sefydliadau partner i helpu i fynd i’r afael â hyn.

Gerallt EvansFe lansiwyd polisi cenedlaethol y CPS ar erlyn troseddau yn erbyn pobl hŷn yn 2008. Rydym yn benderfynol o weithio'n ddyfal gyda phobl hŷn, eu teuluoedd, cymunedau, y sefydliadau sy'n gweithio gyda nhw a'r cyhoedd, i roi hyder iddynt ein bod yn deall natur ddifrifol y troseddau hyn a'n bod yn delio'n effeithiol â nhw.

Gerallt Evans (yn y llun) yw Cydgysylltydd Trosedd Casineb CPS Cymru. Rhan o'i waith yw sicrhau bod y CPS yng Nghymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i annog a chefnogi dioddefwyr a thystion.

Meddai Gerallt: "Mae yna nifer o resymau pam na fydd pobl hŷn yn rhoi gwybod i'r heddlu am drosedd. Efallai eu bod yn teimlo embaras neu fod ganddynt faterion iechyd meddwl, efallai fod arnynt ofn cael eu fictimeiddio neu fod ganddynt rwystrau wrth gyfathrebu neu rwystrau iaith.

"Rydym yn gwybod hefyd fod proses y llys yn codi ofn ar lawer o bobl - yn enwedig rhai pobl hŷn.  Dyna pam rydym eisiau trosglwyddo'r neges fod yna bethau y gallwn eu gwneud i helpu i leddfu'r ofn sydd gan bobl wrth fynd i'r llys. Er enghraifft, gallwn wneud cais am fesurau arbennig fel sgriniau yn y llys rhag i'r dioddefwyr orfod gweld y diffynnydd, neu'r dewis i roi tystiolaeth yn rhywle heblaw ystafell y llys, trwy gyswllt teledu o gartref.

"Gallwn hefyd ddefnyddio canolwyr yn y llys. Canolwr yw rhywun sy'n cael ei benodi gan y llys i helpu rhywun gydag anawsterau cyfathrebu i roi tystiolaeth.  Bydd un o'r Swyddogion Gofal Tystion yn gyswllt arbennig yn y cyfnod cyn i'r achos gael ei gynnal, a gallant helpu gyda phob math o wahanol bethau, o drefnu tacsi i ofalu am anifeiliaid anwes."

Mae targedu rhywun oherwydd ei fod yn hen yn gwneud trosedd hyd yn oed yn fwy difrifol, felly mae'n bwysig bod pob rhan o'r system cyfiawnder troseddol yn cydweithio i ddod â throseddwyr gerbron llys; boed nhw'n ddieithriaid, gofalwyr neu aelodau o'r teulu.

Meddai Gerallt: "Mae byw yn rhydd rhag trosedd yn un o'r hawliau dynol sylfaenol. Os yw pobl hŷn yn cael eu cam-drin yn droseddol, rydym eisiau iddynt gysylltu â'r heddlu, gan fod yn dawel eu meddwl fod pawb ohonom sy'n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol yn deall natur ddifrifol y troseddau hyn ac y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â throseddwyr gerbron eu gwell."