CPS Cymru ymhlith 10 Uchaf Stonewall Cymru

20/03/2012

Mae Ardal CPS Cymru yn falch o gael ei rhestru ymhlith 10 Uchaf Cyflogwyr Cymru 2012 Stonewall Cymru.

10 Uchaf Stonewall CymruMae'r rhestr o Gyflogwyr Gorau yn cydnabod sefydliadau a ddangosodd ymrwymiad i gydraddoldeb yn y gweithle.

Wrth dderbyn tystysgrif CPS Cymru gan Stonewall Cymru, dywedodd Rheolwr Busnes yr Ardal Mike Grist: "Rydym wrth ein boddau yn cael ein henwi ar restr Cyflogwyr Cymru sydd yn y 10 Uchaf gan Stonewall Cymru. Mae CPS Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn gweld gwerth ym mhob un o'n gweithwyr."

Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: "Am y tro cyntaf rydym yn gallu tynnu sylw at y 10 Uchaf ymhlith cyflogwyr yng Nghymru.  Mae'n cynnwys asiantaethau'r llywodraeth, llywodraeth leol, y trydydd sector a'r sector preifat. Yr hyn sy'n gyffredin iddynt yw fod ganddynt ymrwymiad pendant i wneud y gweithle yng Nghymru yn well i'r holl weithwyr.  Mae pob un wedi dangos hyn trwy fod yn aelodau gweithgar o'n rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth. Fel cyflogwyr amlwg, maent o'r farn y bydd pobl yn perfformio'n well o gael bod yn nhw eu hunain."

Yn genedlaethol, fe wnaeth y CPS gynnal ei safle yn y 100 Uchaf ymhlith Cyflogwyr Stonewall ym Mhrydain. I gael gwybod mwy am y rhestr, ewch i wefan Stonewall Cymru.

Yn y llun: Mike Grist (chwith) a KimAnn Williamson (de) yn derbyn tystysgrif ar ran CPS Cymru gan Andrew White o Stonewall Cymru.