Dedfrydu llofruddwyr Aberpennar
12/11/2010
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe ddedfrydwyd Adam Smith a Richard Shanahan i garchar am oes gydag argymhelliad eu bod yn treulio o leiaf 17 a 18 mlynedd, yn y drefn honno, dan glo am lofruddio Richard Dyas.
Bu farw Mr Dyas yn ei gartref yn Aberpennar ym mis Mawrth 2010 o ganlyniad i ymosodiad estynedig a gorffwyll. Roedd ei niweidiau yn dangos iddo gael ei dagu, ei guro'n ddifrifol a'i drywanu.
Dywedodd Catrin Evans, Uwch Erlynydd y Goron Rhanbarthol dros CPS De Cymru: "Roedd y llofruddiaeth yn arbennig o greulon a disynnwyr. Mae'n amhosib amgyffred y boen a'r dioddefaint y bu'n rhaid i Richard Dyas eu goddef yn ystod yr ymosodiad.
"Mae'r Barnwr wedi pennu y bydd Smith a Shanahan yn treulio o leiaf 17 a 18 mlynedd dan glo, yn y drefn honno, a dylai'r gymuned fod yn dawel eu meddwl y bydd y dynion peryglus hyn yn cael eu cadw oddi ar y strydoedd am gyfnod hir iawn. Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu'r dioddefwr."
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Dorian Lloyd o Heddlu De Cymru: "Mae'r dedfrydau a roddwyd i Adam Smith a Richard Shanahan yn benllanw ar ymchwiliad cynhwysfawr i lofruddiaeth Mr Richard Dyas ym mis Mawrth eleni.
"Fe lwyddodd yr ymchwiliad hwn oherwydd diwydrwydd y tîm ymchwilio a hefyd oherwydd y gefnogaeth enfawr a gafwyd gan gymuned Aberpennar - yn enwedig gan y bobl ifanc sy'n byw yno.
"Carwn ddiolch i holl breswylwyr Aberpennar a ddaeth ymlaen gyda datganiadau tystion a fu'n hynod werthfawr. Fe wnaeth hyn, ynghyd â'r dystiolaeth fforensig helaeth, arwain at y pledion euog gan Smith a Shanahan.
"Carwn ddiolch hefyd i holl gymuned Aberpennar am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth i Heddlu De Cymru yn ystod yr ymchwiliad hwn. Fe wnaeth y cyfan darfu yn fawr ar lawer o bobl, a bu'n rhaid cymryd degau o ddatganiadau a chwilio nifer o safleoedd.
"Mae'n anarferol iawn sicrhau pledion euog mewn ymchwiliad i lofruddiaeth ac fe lwyddwyd yn hyn o beth oherwydd cefnogaeth a dewrder llawer o breswylwyr Aberpennar."
