Dau yn euog o lofruddiaeth Gabor Sarkozi
29/05/2012
Mae dau ddyn o’r Rhyl wedi’u dyfarnu’n euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug o lofruddio Gabor Sarkozi yn Sir Ddinbych.
Clywodd y llys fod James Siree a Gary Bland wedi taro a chicio Mr Sarkozi mewn ymosodiad ger Allt Melyd ym mis Hydref 2011.
Roedd Siree a Bland wedi gwadu llofruddio gan ddweud wrth y llys eu bod wedi ceisio helpu Mr Sarkozi ar ôl dod o hyd iddo wedi cwympo.
Dywedodd Ian Evans, Eiriolwr y Gyfraith dros Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru: "Roedd marwolaeth Gabor Sarkozi yn dreisgar dros ben ac yn hollol ddisynnwyr. Fe wnaeth Gary Bland a James Siree ymosod arno gan ddiystyru ei fywyd mewn ffordd ddideimlad, bron yn ddidaro.
"Yna fe aeth y diffynyddion ati i greu stori gan geisio eu portreadu eu hunain fel Samariaid trugarog a oedd wedi ceisio cynorthwyo Mr Sarkozi. Fel awdurdodau erlyn, rydym yn credu'n gryf nad oedd y dystiolaeth yn cefnogi'r dehongliad hwn - ac fe ddaeth y rheithgor i'r un casgliad.
"Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd yr erlyniad fel tystion, yn ogystal â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a gynhaliodd ymchwiliad buan a thrylwyr gan arwain at achos cryf gan yr erlyniad.
"Dim ond Gary Bland a James Siree sy'n gwybod pam y gwnaethon nhw gyflawni trosedd mor erchyll. Yr hyn sy'n sicr yw y bydd yn rhaid i deulu a chyfeillion Gabor Sarkozi fyw gyda'r canlyniadau am flynyddoedd maith i ddod. Rydym yn meddwl amdanynt."
