Darren Jackson: Dedfryd oes i lofrudd Llanllwni
17/09/2012
Cafodd dyn ei garcharu am oes ar ôl cyfaddef iddo dreisio a llofruddio mam-gu yn ei chartref yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd Darren Jackson wedi pledio'n euog i'r troseddau mewn gwrandawiad cynharach a gorchmynnwyd ei fod yn treulio o leiaf 28 mlynedd dan glo pan gafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
Clywodd y llys fod Jackson wedi torri i mewn i gartref Irene Lawless, a oedd yn byw y drws nesaf iddo ym mhentref Llanllwni.
Roedd Jackson wedi ymosod ar Mrs Lawless cyn ei thagu. Fe ddwynodd ei bag llaw a'i char a gyrru i Gaint, ble cafodd ei arestio'n ddiweddarach.
Dywedodd Iwan Jenkins, Erlynydd y Goron Rhanbarthol dros Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru:
"Roedd hwn yn ymosodiad disynnwyr a chreulon ar ddioddefwraig ddiamddiffyn ac agored i niwed. Mae'n iawn fod Darren Jackson wedi cael dedfryd sylweddol dan glo am ei weithredoedd didrugaredd.
"Yn dilyn ymchwiliad cyflym a thrylwyr gan Heddlu Dyfed Powys roedd y CPS yn gallu mynd ati yn fuan i lunio achos erlyniad hynod gryf yn erbyn Darren Jackson. Oherwydd y dystiolaeth ysgubol, fe wnaeth y diffynnydd bledio'n euog i lofruddio Irene Lawless.
"Ni allwn ond gobeithio y bydd teulu a chyfeillion Irene yn cael rhywfaint o gysur yn y ffaith ein bod wedi gallu eu harbed rhag straen a phwysau treial am lofruddiaeth. Ond, rydym yn ymwybodol iawn nad yw dedfryd heddiw yn gwneud unrhyw beth i ddod ag Irene yn ôl na chwaith yn lleddfu'r golled i'r rhai oedd yn agos ati. Rydym yn meddwl amdanynt."
