Cyhuddo William Jones o iorfruddiaeth Peter Lewis
02/05/2012
Mae'r dyn 31 mlwydd oed a arestiwyd ar amheuaeth o lofruddiaeth Peter Lewis yn Roath, wedi cael ei gyhuddo.
Dywedodd Paul Hewitt, Erlynydd y Goron Rhanbarthol CPS Cymru-Wales: "Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi bod yn gweithio'n agos ochr yn ochr â Heddlu De Cymru wrth i'r ymchwiliad i lofruddiaeth Peter Lewis symud ymlaen.
"Ar ôl edrych yn ofalus ar ffeil o dystiolaeth a ddarparwyd gan Heddlu De Cymru, gallwn nawr gadarnhau ein wedi dod i'r casgliad fod yna ddigon o dystiolaeth i gyhuddo William Stephen Jones o lofruddio Peter Lewis a' fod er budd y cyhoedd i wneud hynny . Yn unol â hynny, rydym wedi cynghori Heddlu De Cymru i'w gyhuddo yn ffurfiol.
"Bydd y diffynnydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd 'ar 3 Mai.
"Mae William Jones bellach wedi ei gyhuddo o drosedd ddifrifol iawn ac mae ganddo hawl i dreial teg. Mae'n eithriadol o bwysig nad yw unrhyw beth yn cael ei gyhoeddi a allai beryglu tegwch ei dreial."
