Cyfnod amhenodol dan glo i droseddwr rhyw treisgar
01/10/2010
Rhoddwyd dedfryd o garchar am gyfnod amhenodol i Kyle John gan Lys y Goron Merthyr heddiw am achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac ymosod trwy dreiddio.
Clywodd y llys fod dioddefwraig Kyle John, sef merch yn ei harddegau, wedi wynebu ymosodiad creulon, a oedd yn ddiraddiol yn gorfforol a rhywiol ac a'i gadawodd yn anymwybodol a'i chefn wedi'i dorri. Roedd ôl esgid y diffynnydd i'w weld ar ei thalcen hefyd.
Dywedodd Catrin Evans, Uwch Erlynydd y Goron Rhanbarthol dros CPS De Cymru: "Roedd hwn yn ymosodiad estynedig a hynod greulon. Bu'n rhaid i'r ddioddefwraig fynd i'r ysbyty gyda niweidiau difrifol. Mae'n un o'r ymosodiadau gwaethaf i'r heddlu, erlynwyr y CPS a staff meddygol ei weld erioed.
"Bu'r ddioddefwraig yn ganolog i'r erlyniad hwn ac rydym yn falch iddi gael cyfiawnder a bod Kyle John yn y carchar erbyn hyn. Mae ein meddyliau gyda'r ddioddefwraig a'i theulu o hyd yn ystod y cyfnod arbennig o anodd hwn."
Bydd Kyle John dan glo am bum mlynedd o leiaf cyn bod yn gymwys i wneud cais am barôl. Dywedodd y Barnwr Curran y bydd unrhyw wrandawiad parôl yn y dyfodol yn cael mynediad at adroddiad ar greulondeb llwyr yr ymosodiad.
