Arolygwyr yn cydnabod datblygiad "sylweddol"
20/03/2012
Mae adroddiad gan Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi (HMCPSI) wedi canmol y gwelliannau a wnaed gan Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru ers yr arolygiadau blaenorol ar ranbarthau Gwent a De Cymru.
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn diweddaru'r sefyllfa o ran argymhellion a wnaed yn adroddiadau HMCPSI ar Went yn 2009 a De Cymru yn 2010. Yn ôl adroddiad heddiw fe wnaed cynnydd ar 31 o'r 32 argymhelliad yn yr adroddiadau hynny.
- Dyma rai o'r prif welliannau sy'n ymddangos yn yr adroddiad:
- Mae'r perfformiad yng Ngwent wedi gwella i'r graddau fel ei fod bellach yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer pob mesur perfformiad allweddol
- Bu gwelliannau nodedig mewn perthynas ag achosion sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod
- Gwnaed gwelliannau sylweddol i bartneriaethau lleol, yn enwedig gyda'r heddlu a'r gwasanaeth llysoedd
- Mae Safonau Ansawdd Craidd y CPS wedi rhoi sail glir ar gyfer mesur a gwella perfformiad
- Mae gan CPS Cymru weledigaeth glir ar gyfer gwella ansawdd, cyflwyno gwasanaeth da a gwella canlyniadau i ddefnyddwyr
Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd Prif Erlynydd y Goron dros CPS Cymru, Jim Brisbane:
"Rwy'n falch iawn fod gwaith caled ac ymroddiad ein holl staff i wella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i gymunedau Cymru wedi'i gydnabod yn yr adroddiad hwn heddiw.
"Fe wnaeth adroddiadau blaenorol De Cymru a Gwent dynnu sylw at nifer o faterion yr oedd angen i ni fynd i'r afael â nhw ar frys. Fe wnaethom ni dderbyn argymhellion yr adroddiadau hynny a gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir erbyn hyn.
"Mae'n deyrnged i gydymdrech ein holl staff ein bod wedi gallu creu newid mor gadarnhaol ar adeg o gyfyngder ariannol sylweddol. Mae Safonau Ansawdd Craidd y CPS wedi'n cynorthwyo i ganolbwyntio o ddifrif ar y prif feysydd yn ein gwaith y mae angen eu cael yn iawn. Ar yr un pryd, rydym hefyd wedi sefydlu'r llwyfan ar gyfer gweithio'n ddigidol ar draws ein holl swyddfeydd."
Er y newyddion cadarnhaol sydd yn yr adroddiad, mae Mr Brisbane yn cydnabod nad da lle gellir gwell:
"Er ein bod yn ddiolchgar bod yr adroddiad yn cydnabod yr hyn rydym wedi'i gyflawni eisoes a'r cynlluniau sydd gennym ar y gweill i gynnal ein gwelliannau, rydym yn cydnabod bod yr adroddiad yn amlinellu rhai meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt o hyd.
"Yr her i ni nawr yw cynnal y cynnydd a wnaethom er mwyn darparu gwasanaeth sydd hyd yn oed yn well ac yn fwy effeithlon i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae adroddiad heddiw yn rhoi'r hyder i ni wybod ein bod yn symud yn y cyfeiriad cywir."
I weld yr adroddiad, ewch i wefan HMCPSI.
