Canolfan Newyddion
Date
Outline
28/02/2017
Llofruddiaeth Matalan: Carchar am oes i Andrew Saunders
Heddiw danfonwyd llofrudd 20 mlwydd oed i garchar am oes ar ôl trywanu ei gyn-gariad, a'i chariad newydd, dro ar ôl dro, wrth iddynt fynd i'w gwaith. Arhosodd Andrew Saunders y tu allan i siop Matalan ar Stryd y Frenhines yng nghanol Dinas Caerdydd cyn lladd Zoe Morgan, 21, a Lee Simmons, 33 ym mis Medi 2016.
17/08/2016
Ymateb CPS Cymru-Wales i adroddiad HMCPSI
Yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth ei Mawrhydi Gwasanaeth Erlyn y Goron (HMCPSI), mae'r CPS yng Nghymru yn cyflawni canlyniadau da ac yn cynnig gwasanaeth gwerth arian i'r cyhoedd.
03/06/2015
Dedfryd o oes ar gyfer llofruddiaeth Bae Trecco
Mae gwr a gurodd fachgen yn ei arddegau i farwolaeth wedi ei gamadnabod wedi ei garcharu am oes yn Llys y Goron Caerdydd.
30/04/2015
Tad-cu yn euog o lofruddiaeth Amelia Jones
Mae gwr o Gwmbrân wedi ei ddedfrydu i garchar am oes, gydag isafswm o 25 mlynedd, wedi ei gael yn euog o lofruddio ei wyres pum wythnos oed.
30/04/2015
Carchar i ladron peiriannau arian
Mae dau ddyn wedi eu carcharu am gymryd rhan mewn achosi ffrwydradau mewn peiriannau arian ym Mhontypridd a Phen-y-bont.
20/03/2015
Dedfryd o oes ar gyfer ymgais i lofruddio yng Nghaerdydd
Mae gwr a geisiodd drywanu ei bartner yn ei chartref yng Nghaerdydd wedi derbyn dedfryd o oes yn Llys y Goron Caerdydd.
18/03/2015
Uno yn erbyn camfanteisio’n rhywiol ar blant
oedd dydd Mercher 18 Mawrth 2015 yn Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, gyda phobl ar draws Cymru yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol o arwyddion masnachu ac i adrodd ar unrhyw weithgaredd amheus i’r awdurdodau priodol.
05/03/2015
CPS yn cwblhau ei adolygiad o achos milwyr Bannau Brycheiniog
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cwblhau adolygiad o’r achos yn ymwneud â marwolaethau tri o filwyr ar Fannau Brycheiniog yn 2013.
20/02/2015
Carcharu Royston Jones am 15 mlynedd am ymgais i lofruddio yn Y Fenni
Mae gwr a ymosododd ar ei wraig oedd wedi ymddieithrio mewn ysbyty yn y Fenni wedi ei garcharu am 15 mlynedd, wedi ei gael yn euog o ymgais i lofruddio.
29/01/2015
Carcharu diddanwr plant o Ogledd Cymru
Mae gwr o Gonwy a blediodd yn euog i 20 cyhuddiad yn cynnwys creu, meddiannu ar a dosbarthu delweddau anweddus o blant; meddiant o ddelweddau eithafol a chyflenwi cyffur Dosbarth A wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar.
18/12/2014
Carcharu gang twyll morgeisi Abertawe
Mae pedwar o bobl oedd ynghlwm â thwyll morgeisi gwerth dros £5miliwn wedi eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
01/12/2014
Dedfrydu deliwr heroin o Gaerdydd i 94 mis wedi ei estraddodi
Mae deliwr o Gaerdydd wedi ei ddedfrydu i saith mlynedd a 10 mis o garchar yn Llys y Goron Caerdydd, wedi pledio’n euog mewn gwrandawiad blaenorol i gynllwynio i gyflenwi cyffur Dosbarth A.
28/11/2014
Carcharu gwr o Fae Colwyn am dreisio ac ymosodiad anweddus hanesyddol
Mae gwr 74 oed o Fae Colwyn wedi ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon am gyfres o achosion hanesyddol o drais ac ymosodiadau anweddus.
27/11/2014
Dedfrydu perchennog cartref gofal yng Ngogledd Cymru am droseddau rhyw difrifol
Cafwyd perchennog a rheolwr 11 o gyn gartrefi plant yng Ngogledd Cymru yn euog o 33 o droseddau rhyw difrifol, yn dilyn treial yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
07/11/2014
Carcharu dau mewn achos o fasnachu mewn pobl
Carcharwyd menyw am wyth mlynedd a gwr am ddwy flynedd yn Llys y Goron Caerdydd, wedi ei gael yn euog o droseddau yn gysylltiedig â masnachu menywod o Nigeria i’r Deyrnas Unedig ar gyfer camfanteisio rhywiol.
05/11/2014
Marwolaeth Dylan Seabridge: Gollwng cyhuddiadau yn erbyn Glynn a Julie Seabridge
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau na fydd rhieni Dylan Seabridge o Eglwyswrw yn Sir Benfro, a ganfuwyd yn farw tua diwedd 2011, bellach yn wynebu cyhuddiadau troseddol.
18/12/2013
Ian Watkins dedfrydu
Dywedodd Catrin Evans, Pennaeth Uned Achosion Cymhleth Cymru Gwasanaeth Erlyn y Goron:
18/07/2013
Carl Mills euog o dair llofruddiaeth yn Cwmbran
Carl Mills wedi ei gael yn euog o lofruddio tair cenhedlaeth o'r un teulu ac wedi cael ei garcharu am oes.
06/06/2013
Caerdydd taro a ffoi: dyn ddedfrydu
Mae dyn a laddodd fam i dri ac anafu 17 o bobl eraill wedi cael ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol mewn uned seiciatryddol.
30/05/2013
Mark Bridger euog o lofruddio April Jones
Mae rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi dyfarnu bod Mark Bridger yn euog o lofruddio April Jones.
18/01/2013
Datganiad gan y CPS ar ymchwiliad Glofa'r Gleision
Dywedodd Malcolm McHaffie, Dirprwy Bennaeth Troseddau Arbennig ar rhan Gwasanaeth Erlyn y Goron:
22/09/2012
Cyhuddo dyn yn dilyn trychineb tân mewn ty yng Nghwmbrân
Cafodd dyn 28 mlwydd oed ei gyhuddo o dri chownt o lofruddiaeth yn dilyn tân a arweiniodd at farwolaeth tri o bobl mewn ty yng Nghwmbrân.
17/09/2012
Darren Jackson: Dedfryd oes i lofrudd Llanllwni
Cafodd dyn ei garcharu am oes ar ôl cyfaddef iddo dreisio a llofruddio mam-gu yn ei chartref yn Sir Gaerfyrddin.
10/07/2012
Gorchymyn i ddau adfer difrod i safle amgylcheddol sensitif
Mae dau ddyn a ddifrododd goetir gwarchodedig ar fferm yn Llanrhaedr yn Nyffryn Clwyd wed cael gorchymyn i wneud gwaith adfer ar y safle, ar ôl cyfaddef iddynt gyflawni troseddau dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.
06/07/2012
Mam yn euog yn achos gwenwyno baban yn Abertawe
Cafwyd mam yn euog o lofruddio ei merch fach, ar ôl rhoi tabledi lladd poen oedolion iddi.
03/07/2012
Barry Bowyer yn euog o lofruddio Gary Suller
Mae dyn a ymosododd yn ddidostur ar Gary Suller a'i ladd yn ei gartref yng Nghwmbrân wedi'i garcharu am oes, ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o lofruddiaeth.
02/07/2012
Dyn o Frynmawr yn euog o ddynladdiad yn y Fenni
Mae rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd wedi cael Gareth Jenkins o Frynmawr yn euog o ddynladdiad, yn dilyn treial i’r amgylchiadau yn gysylltiedig â marwolaeth Harry Towers o’r Fenni.
22/06/2012
Karl Lang yn euog o droseddau rhyw
Yn Llys y Goron Casnewydd fe gafwyd seicig o Gasnewydd yn euog o dargedu dwy fenyw agored i niwed a’u hargyhoeddi i gyflawni gweithredoedd rhywiol.
29/05/2012
Dau yn euog o lofruddiaeth Gabor Sarkozi
Mae dau ddyn o’r Rhyl wedi’u dyfarnu’n euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug o lofruddio Gabor Sarkozi yn Sir Ddinbych.
25/05/2012
Dedfrydu dyn o Ben-y-Bont wedi iddo gael ei estraddodi o wlad Thai
Mae dyn 58 mlwydd oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi’i ddedfrydu i 12 mlynedd dan glo am dreisio ac ymosod yn anweddus, ar ôl cael ei estraddodi o Wlad Thai.
23/05/2012
Trydydd dyn yn cael ei ddedfryd fel rhan o ymgyrch troseddau rhyw
Mae trydydd dyn wedi’i ddedfrydu ar ôl pledio’n euog i dalu am wasanaethau rhywiol yn gysylltiedig â phlentyn, fel rhan o ymgyrch fawr i dargedu ymddygiad rheibus yn ardal Gwent.
21/05/2012
Rhaid i berchennog ty bwyty yng Nghaerdydd dalu £34,000 am anwybyddu gwaharddiad masnachu
Mae perchennog bwyty yng Nghaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu bron i £34,000 am fethu talu bond gwarant rhag colledion posib gan y cwmni.
02/05/2012
Cyhuddo William Jones o iorfruddiaeth Peter Lewis
Mae'r dyn 31 mlwydd oed a arestiwyd ar amheuaeth o lofruddiaeth Peter Lewis yn Roath, wedi cael ei gyhuddo.
01/05/2012
David Cook yn euog o lofruddio Leonard Hill
Mae dyn a honnodd iddo ladd ei gymydog ar ôl colli rheolaeth dros dro, wedi’i gael yn euog o lofruddiaeth gan reithgor yn Llys y Goron Casnewydd.
20/04/2012
Dedfryd o bum mlynedd i Evans am dreisio yn y Rhyl
Fe gafodd y pêl-droediwr Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog yn Llys y Goron Caernarfon o dreisio menyw mewn gwesty ger y Rhyl.
29/03/2012
Oes o garchar i John Mason, llofrudd Arberth
Rhoddwyd dedfryd o garchar am oes i John Mason, gydag o leiaf 30 o flynyddoedd dan glo, ar ôl i reithgor yn Llys y Goron Abertawe ei gael yn euog o lofruddio Angelika Dries-Jenkins yn Arberth, Sir Benfro.
27/03/2012
Carcharu dyn o Bontypridd am roi sylwadau hiliol ar Twitter
Fe gafodd Liam Stacey o Bontypridd ei garcharu am 56 o ddiwrnodau ar ôl cyfaddef iddo gyflawni trosedd trefn gyhoeddus gwaethygedig ar sail hil yn Llys Ynadon Abertawe.
20/03/2012
Arolygwyr yn cydnabod datblygiad "sylweddol"
Mae adroddiad gan Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi (HMCPSI) wedi canmol y gwelliannau a wnaed gan Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru ers yr arolygiadau blaenorol ar ranbarthau Gwent a De Cymru.
16/03/2012
Gollwng achos yn erbyn protestwyr Meddiannwn Caerdydd
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau bod yr achos wedi’i ollwng yn erbyn dau brotestiwr a gafodd eu harestio a’u cyhuddo yng ngwrthdystiad Meddiannwn Caerdydd ym mis Tachwedd 2011.
01/03/2012
Dedfrydu gang cyffuriau Gogledd Cymru i dros 130 mlynedd
Mae gang o 23 o werthwyr cyffuriau oedd yn gyfrifol am gyflenwi cyffuriau Dosbarth A ar draws Gogledd Cymru wedi cael cyfanswm dedfrydau o dros 130 mlynedd dan glo yn Llys y Goron Caernarfon.
29/02/2012
Carcharu dau am esgeuluso bachgen tair oed
Mae Lisa Brooks a Tomas Lewis wedi derbyn dedfrydau o garchar ar ôl pledio’n euog i esgeuluso bachgen tair oed yn fwriadol yn Nhrefddyn, ger Pont-y-pwl.
23/02/2012
Julian Emms yn euog o ddefnyddio arian clefyd niwronau motor yn dwyllodrus
Fe gafwyd dyn o Sir Fynwy yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl cael ei gyhuddo o dwyll mewn cysylltiad â chronfa a sefydlwyd i gefnogi ei fab sydd â salwch marwol.
22/02/2012
Carl Whant yn euog o lofruddio, difa plentyn, treisio a llosgi
Mae Carl Whant wedi’i ddedfrydu i garchar am oes, am gyfnod o 35 mlynedd o leiaf, ar ôl i reithgor yn Llys y Goron Casnewydd ei gael yn euog o lofruddio a threisio Nikitta Grender, 19 mlwydd oed, difa ei phlentyn Kelsey-May yn y groth, a llosgi.
30/01/2012
Cyhuddo Bleddyn Rees King wedi iorfruddiaeth Pentyrch
Mae'r dyn 18 mlwydd oed a arestiwyd ar amheuaeth o lofruddiaeth David Evans yn Pentyrch, wedi cael ei gyhuddo.
27/01/2012
Cyhuddo Darren Jackson o lofruddiaeth Irene Lawless
Mae'r dyn 26 mlwydd oed a arestiwyd ar amheuaeth o lofruddiaeth Irene Lawless yn Llanllwni yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei gyhuddo.
20/01/2012
Dedfrydu dau am ecsbloetio plant yn rhywiol
Rhoddwyd dedfryd o garchar i ddau ddyn o Gasnewydd a blediodd yn euog i gyflawni troseddau yn gysylltiedig ag ecsbloetio plant yn rhywiol.
25/11/2011
Carcharu treisiwr am 18 mlynedd
Mae dyn o Fargoed a gafodd ei gollfarnu am gyflawni 13 trosedd corfforol a rhywiol difrifol, gan gynnwys wyth achos o dreisio, wedi’i ddedfrydu i 18 mlynedd dan glo yn Llys y Goron Caerdydd.
24/11/2011
Cyhuddo dyn mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw Casnewydd
Cafodd dyn ei gyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad ar ddydd Sul, 20 Tachwedd 2011, mewn isffordd sy’n mynd dan orsaf reilffordd Casnewydd.
18/11/2011
Dedfrydu gang cyffuriau Caerdydd i dros 52 mlynedd dan glo
Cafodd naw o bobl a fu’n cyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn ardal Caerdydd eu dedfrydu i gyfanswm o 52 mlynedd a dau fis dan glo yn Llys y Goron Caerdydd, ar ôl cael eu dyfarnu’n euog o amryw o droseddau yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
14/11/2011
Cyhuddo John Clifton Davies o lofruddio Colette Davies yn India
Cafodd John Clifton Davies ei gyhuddo o lofruddio Colette Davies, 39 mlwydd oed yn India yn 2004. Fe gyhuddwyd Davies hefyd o ddau gownt o dwyll.
04/11/2011
Cymru yn ledio’r ffordd gyda chynlluniau ar gyfer erlyn digidol
Mewn anerchiad i Gymdeithas Ynadon Caerdydd a Chymdeithas y Cyfreithwyr, mae’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Keir Starmer QC, wedi egluro sut mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru yn ledio’r ffordd gyda chynlluniau beiddgar i gyflwyno gweithio’n ddigidol i’r System Cyfiawnder Troseddol.
21/07/2011
Dyfarnu John Pope yn euog o lofruddio Karen Skipper yn dilyn aildreial
Yn dilyn aildreial yn Llys y Goron Caerdydd, fe gafwyd John Pope yn euog gan reithgor heddiw o lofruddio Karen Skipper yng Nghaerdydd yn 1996.
13/02/2011
Cyhuddo Carl Whant o lofruddio Nikitta Grender
Mae’r dyn 26 mlwydd oed a oedd dan amheuaeth o lofruddio Nikitta Grender bellach wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.
08/02/2011
Dedfrydu pedwar yn dilyn llofruddiaeth Antoni Robinson
Cafodd dwy chwaer a’u cariadon eu dedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, ar ôl cael eu collfarnu am lofruddio tad 61 mlwydd oed y merched.
31/01/2011
Saith mlynedd i dreisiwr Llandrindod
Yn Llys y Goron Merthyr fe roddwyd dedfryd o garchar am saith mlynedd i ddyn o Bowys a ymosododd ar fenyw 16 mlwydd oed yn ystod oriau mân Dydd Calan.
02/12/2010
Dedfryd amhenodol i dreisiwr Hengoed
Yn Llys y Goron Caerdydd fe garcharwyd dyn o Hengoed am gyfnod amhenodol am gyflawni amryw o droseddau treisgar a rhywiol yn erbyn pedair menyw.
15/11/2010
Carcharu Martin Mather mm lofruddio dyn anabl yn y Rhyl
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw fe ddedfrydwyd dyn o’r Rhyl i garchar am oes gan dreulio o leiaf 17 mlynedd dan glo.
12/11/2010
Dedfrydu llofruddwyr Aberpennar
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe ddedfrydwyd Adam Smith a Richard Shanahan i garchar am oes gydag argymhelliad eu bod yn treulio o leiaf 17 a 18 mlynedd, yn y drefn honno, dan glo am lofruddio Richard Dyas.
11/11/2010
Adroddiad arolygu yn nodi penderfyniad i wella
Mae Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi adroddiad i’w arolygiaeth ar CPS De Cymru, a gynhaliwyd ym mis Ebrill eleni.
01/10/2010
Cyfnod amhenodol dan glo i droseddwr rhyw treisgar
Rhoddwyd dedfryd o garchar am gyfnod amhenodol i Kyle John gan Lys y Goron Merthyr heddiw am achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac ymosod trwy dreiddio.
29/09/2010
Y Llys Apêl yn cynyddu’r ddedfryd am drosedd drylliau
Yn y Llys Apêl yn Llundain yr wythnos hon fe gynyddwyd y dedfrydau a roddwyd am droseddau drylliau a gyflawnwyd gan David John Smith a Rhys Gethin.
20/09/2010
Collfarnu dyn o Bowys ar ôl aildreial
Cafodd Ben Roberts o Hawau, ger Llandrindod, ei gollfarnu o gyflawni gwir niwed corfforol ac ymosod yn rhywiol ar fachgen dan 13 mlwydd oed, mewn aildreial yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos hon.
17/09/2010
Dedfrydu gang cyffuriau Sir Benfro
Dedfrydwyd aelodau o gang cyffuriau a fu’n cyflenwi sylweddau rheoledig ar hyd a lled Sir Benfro yn Llys y Goron Abertawe heddiw, wedi eu cael yn euog o droseddau yn ymwneud â chyffuriau.
06/09/2010
Gwell gwasanaeth i ddioddefwyr treisio gan CPS Gwent
Mae CPS Gwent wedi amlinellu’r gwelliannau y mae’r gwasanaeth yn eu gwneud yn y ffordd y mae’n ymdrin ag achosion o dreisio.
06/08/2010
Sylw i drosedd casineb homoffobig yn yr Eisteddfod
Mae CPS Gwent wedi ymuno â Heddlu Gwent a Stonewall Cymru i lansio ymgyrch i dargedu trosedd casineb homoffobig. Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn yr Eisteddfod eleni, yng Nglynebwy.
14/05/2010
Rhoi’r Gorchymyn Atal Troseddu Difrifol cyntaf yng Nghymru i werthwr Cyffuriau Cyson
Paul Richards, 51 oed, oedd y cyntaf yng Nghymru i dderbyn gorchymyn atal troseddu difrifol (SCPO).
