Croeso i CPS Cymru

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn gyfrifol am erlyn achosion troseddol a ymchwilir gan yr heddlu ar hyd a lled Cymru a Lloegr.

Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Heddlu, y Llysoedd, y Gwasanaeth Prawf, Carcharau a Thimau Troseddau Ieuenctid. Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Chymorth i Ddioddefwyr er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol.

Mae'r CPS yng Nghymru yn gwasanaethu poblogaeth o dros dair miliwn o bobl ac mae ein timau lleol yn gweithio ochr yn ochr mewn partneriaeth gydaa'r heddlu yn ei rhanbarthau lleol: Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru. Hefyd, mae gennym uned achosion cymhleth (CCU) sy'n gweithio ar draws Cymru i erlyn amryw o droseddau trawsffiniol, cyfundrefnol a mwy difrifol.

Y Newyddion Diweddaraf

Beth sy'n digwydd yn CPS Dyfed Powys, CPS Gwent, CPS Gogledd Cymru a CPS De Cymru.

Map Cymru

GwentDe CymruDyfed-PowysGogledd CymruMap Grwp Cymru

Mae'r CPS yn sefydliad cenedlaethol sydd wedi'i rannu yn 13 Rhanbarth. Mae Rhanbarth Cymru yn gwasanaethu'r rhanbarthau heddlu canlynol:

Dyfed Powys

Gwent

Gogledd Cymru

De Cymru