Gyrfaoedd
Gweithio i'r CPS yng Nghymru
Croeso i'r cwmni cyfreithiol mwyaf yn y wlad.
Mae'r CPS yn cyflogi dros 8,000 aelod o staff ar draws Cymru a Lloegr; ac mae dros 92% o'r rhain yn gysylltiedig ag erlyniadau yn y rheng flaen, neu'n cefnogi'r gwaith hwnnw.
Ar draws Cymru, rydym yn cyflogi tua 400 aelod o staff.
Mae gennym swyddfeydd yng Abertawe, Bae Colwyn, Caerdydd, Caerfyrddin, Cwmbrân, Drenewydd, Merthyr ac Wrecsam. Fe all erlynwyr gael eu lleoli hefyd mewn canolfannau cyhuddo o fewn gorsafoedd yr heddlu ledled Cymru.
Yn genedlaethol, bydd swyddi gweigion yn y CPS yn cael eu hysbysebu ar ein prif dudalennau gyrfa ar y we. Gallwch gofrestru ar y wefan i gael gwybod pryd y bydd unrhyw swyddi addas yn dod ar gael. Gall swyddi gael eu hysbysebu hefyd mewn papurau newyddion lleol a chenedlaethol.
Bydd unrhyw swyddi gweigion yng Nghymru yn ymddangos ar y dudalen hon ar y we.
Swyddi yng Nghymru
Ar hyn o bryd does dim swyddi ar gael yng Nghymru.
