Gweithio'n DDigidol
Ar hyn o bryd mae'r CPS yn ymgymryd â rhaglen waith bwysig sy'n ceisio ein helpu i gyflwyno gwasanaeth cyflymach a mwy effeithlon trwy ddefnyddio technoleg uwch.
Ein gweledigaeth yw cael CPS digidol, ble bydd gwaith electronig diogel yn disodli'r angen am fynyddoedd o waith papur yn y system.
Bydd gwell technoleg yn golygu y gallwn symleiddio ein prosesau wrth ddarparu gwasanaeth, gan wella effeithlonrwydd a chyflymder ein gwaith yn y meysydd canlynol:
- Cyfnewid gwybodaeth gyda'r heddlu
- Paratoi achosion
- Cyfnewid gwybodaeth gyda llysoedd, cwnsler yr amddiffyniad a'r erlyniad
- Cyflwyno achosion yn y llys
- Ein gwasanaeth i ddioddefwyr a thystion
- Rheolaeth gyfreithiol a busnes
Ar hyn o bryd, mae llawer o'n gwaith yn y meysydd hyn yn digwydd trwy gyfrwng ffeiliau papur, sy'n symud o gwmpas y system. Trwy ddisodli llawer o'r gwaith papur hwn gyda thechnolegau effeithlon a diogel, gallwn helpu i gwrdd â'n hymrwymiadau cyllidebol dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnal a gwella ansawdd ein gwaith.
Ein cynnydd yng Nghymru
Yng Nghymru, rydym yn gweithio'n agos â nifer o bartneriaid allweddol gan gynnwys pedwar heddlu Cymru, y llysoedd, cyfreithwyr yr amddiffyniad a chwnsler yr erlyniad, er mwyn cyflawni'r newidiadau hyn.
Rydym eisoes wedi:
- Dechrau erlyn achosion syml yn y llys Ynadon trwy liniaduron
- Datblygu gwasanaeth Gofal Tystion heb bapur
- Dechrau rhannu gwybodaeth am achosion yn electronig i lysoedd Dyfed Powys a De Cymru
Dros y misoedd nesaf, rydym yn bwriadu:
- Gweithio gyda chyfreithwyr yr amddiffyniad a chwnsler yr erlyniad i ddefnyddio mwy ar e-bost diogel
- Darparu cyfarpar technoleg gwybodaeth symudol i'n staff
- Rhoi gwybod i'n sefydliadau partner a'r cyhoedd am ein llwyddiant
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych gwestiwn neu sylw am ein cynlluniau ar gyfer CPS digidol yng Nghymru, anfonwch e-bost at: wales.communications@cps.gsi.gov.uk
Mae gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer ein sefydliadau partner i'w cael ar y dudalen Adnoddau Digidol.
