Mesurau Arbennig
Os oes tystion sydd efallai'n agored i niwed neu'n teimlo'n ofnus, mae mesurau arbennig yn gallu eu helpu i roi eu tystiolaeth yn y ffordd orau un.
Er enghraifft, efallai y bydd yn bosib rhoi tystiolaeth o'r tu ôl i sgrin, fel na fydd y sawl sy'n cael ei gyhuddo yn gallu gweld y tyst yn rhoi tystiolaeth. Mae'n bosib hefyd y gall rhai tystion roi tystiolaeth trwy gyswllt teledu byw, fel nad oes raid iddynt fynd i ystafell y llys ei hun.
Bydd Swyddogion Gofal Tystion yn asesu anghenion a phryderon unigol y tystion a gwneud cais i'r llys am drefnu mesurau arbennig yn ôl yr angen.
Dyma sut mae'r Côd Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau yn diffinio dioddefwyr agored i niwed:
- Y rhai sydd dan 17 mlwydd oed.
- Y rhai sydd ag anabledd neu anhwylder corfforol neu feddyliol, gan gynnwys anawsterau dysgu, ac y mae ansawdd eu tystiolaeth yn debygol o fod yn wannach os na cheir mesurau arbennig.
- Dioddefwyr trais yn y cartref ac aelodau teulu i ddioddefwyr llofruddiaeth a dynladdiad.
- Dioddefwyr sy'n cael eu dychryn, y bydd eu tystiolaeth yn cael ei llesteirio trwy ofni'r diffynnydd neu syn gofidio ynghylch rhoi tystiolaeth.

