Gofal i Dystion
Ym mhob tîm lleol yng Nghymru mae yna Uned Gofal Tystion un pwrpas, sy'n cefnogi dioddefwyr a thystion o'r adeg y bydd troseddwr yn cael ei gyhuddo hyd at ddiwedd yr achos cyfreithiol.
Yn yr Unedau Gofal Tystion mae staff o'r CPS a'r heddlu, ac maent yn darparu:
- Swyddogion Gofal Tystion, sy'n gyswllt penodol ar gyfer dioddefwr neu dyst trwy gydol yr achos, o adeg y cyhuddo hyd at unrhyw achos llys posib wedyn. Byddant yn helpu unigolion trwy'r broses cyfiawnder troseddol a chyd-drefnu cefnogaeth a gwasanaethau.
- 'Asesiad anghenion' llawn i nodi'n union pa gymorth sydd ei angen ar ddioddefwyr a thystion er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn gallu mynd i'r llys. Gallai hyn gynnwys anawsterau ymarferol fel darparu gofal plant, cludiant, help gydag anawsterau iaith, problemau meddygol a meysydd sy'n peri pryder, gan gynnwys dychryn posib.
- Adolygiad parhaus o anghenion dioddefwyr a thystion trwy gydol yr achos gan y CPS a'r heddlu.
- Mwy o gyfathrebu a chyswllt gyda thystion ynghylch achosion, gan gynnwys canlyniad yr achos neu'r treial.
Gall Unedau Gofal Tystion helpu tystion i roi tystiolaeth os ydynt yn agored i niwed neu'n cael eu dychryn, trwy ddefnyddio 'mesurau arbennig' er enghraifft trefnu i dystion roi tystiolaeth o'r tu ôl i sgrin neu drwy gyswllt fideo.
Manylion Cyswllt
Uned Gofal Tystion Dyfed-Powys: 01267 242114
Uned Gofal Tystion Gwent: 01633 844500
Uned Gofal Tystion Gogledd Cymru: 01978 346064
Uned Gofal Tystion De Cymru: 02920 803949

