Cynnwys Cymunedau
Mae Cymru yn wlad fywiog ac amrywiol ac mae ganddi hunaniaeth unigryw. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru yn ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau lleol ar hyd a lled Cymru, er mwyn gwella ein gwasanaethau.
Rydym eisiau darparu gwasanaeth teg i bawb, felly mae'n bwysig fod pobl yn deall sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio a sut byddwn yn gwneud ein penderfyniadau.
Yn llawer rhy aml, nid yw pobl yn gwybod pwy ydym ni na'r hyn rydym yn ei wneud. Mae'r CPS yng Nghymru yn ymrwymo i newid hyn a chael presenoldeb amlwg.
Ledled Cymru, byddwn yn ceisio gweithio gyda phob grŵp a chymuned er mwyn sicrhau y bydd y polisau newydd a fabwysiadir gan y CPS yn adlewyrchu'r gymdeithas amrywiol rydym yn byw ynddi, a bod anghenion y cymunedau a wasanaethwn yn cyfrannu at y ffordd rydym yn gweithredu.
Byddwn yn mynd ati mewn nifer o ffyrdd i geisio cynnwys cymunedau yn y ffordd rydym yn cynllunio a chyflwyno ein gwasanaethau. Gallwch ddarllen mwy amdanynt trwy ddilyn y dolenni yn yr adran hon.
