Gwybodaeth Bersonol
Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), gan ymgorffori Swyddfa Erlyniadau Cyllid a Thollau (RCPO) Siarter Wybodaeth
Mae'r Siarter hon ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) boed hynny'n gysylltiedig ag erlyniad neu drwy ohebiaeth. Mae'n berthnasol i unrhyw ddata personol rydym yn ei gadw amdanoch am unrhyw reswm. Mae'r Siarter yn disgrifio'r safonau y gallwch eu disgwyl pan fyddwn yn cadw eich data personol.
Pam y byddwn yn prosesu data personol
Mae angen i ni ymdrin â data personol er mwyn erlyn achosion troseddol. Bydd mwyafrif y data personol rydym yn ei gadw yn cael ei drosglwyddo i ni gan yr heddlu, fel y gallwn benderfynu erlyn ai peidio. Yn gyffredinol, bydd y CPS yn cadw data personol am ddiffynyddion, dioddefwyr a thystion mewn achosion troseddol.
Sut y byddwn yn prosesu data personol
Dyma sut y byddwn yn gofalu am ddata personol:
- Byddwn yn ei ddiogelu a sicrhau na fydd neb na ddylai gael mynediad ato yn cael gwneud hynny
- Byddwn yn sicrhau na fyddwn yn ei gadw'n hwy na fydd angen.
Gyda data a dderbynnir gan yr heddlu ac eraill, ni ellir ond ei ddatgelu i'r dosbarthiadau hynny o bobl/sefydliadau a nodir ynHysbysiad Diogelu Data y CPS
Sylwch mai Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus y CPS yw Cyfarwyddwr y Swyddfa Erlyniadau Cyllid a Thollau (RCPO) hefyd. Mae RCPO yn parhau i weithio dan ei rhif hysbysu data ar wahân. Mae'r Siarter yn cwmpasu'r CPS yn ogystal ag RCPO.
Mae'n ofynnol bod y CPS yn rhannu gwybodaeth gyda phartïon eraill dan amryfal Ddeddfau Seneddol ac Offerynnau Statudol gan gynnwys Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 a Rheolau Gweithdrefn Troseddol 2010. Dan amgylchiadau priodol, fel rhan o fusnes cyffredin y CPS ac er mwyn bodloni gofynion cyfiawnder troseddol, gellir datgelu data personol (dim ond enwau ar y cyfan, ond yr hyn sy'n berthnasol yn unig) i:
- Gyfreithwyr sy'n gweithredu dros ddiffynyddion
- Diffynyddion yn bersonol
- Cyfreithwyr sy'n gweithredu dros drydydd person
- Cyfreithwyr sy'n gweithredu dros y CPS
- Yr Heddlu
- Asiantaethau eraill sy'n Gorfodi'r Gyfraith
- Pobl/Sefydliadau sy'n darparu gwasanaeth cefnogi ar gyfer dioddefwyr a thystion
- Dioddefwyr a thystion
- Cwnsler (bargyfreithiwr) dros y diffynnydd
- Cwnsler (bargyfreithiwr) dros yr erlyniad
- Llysoedd Ynadon
- Llysoedd y Goron
- Llysoedd Apêl
- Y Gwasanaeth Prawf
- Y Gwasanaeth Carchardai
- Timau Troseddau Ieuenctid
- Y Swyddfa Gartref
- Eraill sydd â diddordeb cyfreithlon yn y data
Yn yr amgylchiadau prin ble byddwn yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi, byddwn yn:
- Sicrhau eich bod yn gwybod pam y mae arnom ei angen
- Gofyn am yr hyn sydd ei angen yn unig, a pheidio â chasglu gormod o wybodaeth neu wybodaeth amherthnasol
- Rhoi gwybod i chi os byddwn yn ei rannu gyda sefydliadau eraill er mwyn rhoi gwell gwasanaeth i chi gan ofyn am eich caniatâd chi pan fydd angen.
Wrth ddelio â'ch gwybodaeth bersonol, byddwn hefyd yn:
- Gweld gwerth yn y wybodaeth bersonol a ymddiriedir i ni a sicrhau ein bod yn parchu'r ymddiriedaeth honno
- Ufuddhau i'r gyfraith wrth ymdrin â gwybodaeth bersonol
- Ystyried y risgiau i breifatrwydd pan fyddwn yn bwriadu defnyddio neu gadw gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd newydd, er enghraifft wrth gyflwyno systemau newydd
- Rhoi hyfforddiant i staff sy'n ymdrin â gwybodaeth bersonol ac ymateb yn briodol os na fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio neu ei diogelu'n briodol.
Er mwyn sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn ddibynadwy ac wedi'i diweddaru, byddwn ninnau yn ein tro yn gofyn i chi, ble bo'n berthnasol, i:
- Roi gwybodaeth gywir i ni
- Dweud wrthym cyn gynted â phosib os oes unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, er enghraifft cyfeiriad newydd, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a newid enw.
Sut i gael gwybod pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi
Dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae gennych hawl i gael copi o'r wybodaeth y bydd y CPS yn ei chadw amdanoch chi; mae cais am y wybodaeth hon yn cael ei alw'n ‘gais testun am gael gweld gwybodaeth'. I gael rhagor o fanylion am sut i wneud cais testun am wybodaeth edrychwch ar ein gwefan ar y dudalenCael gwybodaeth bersonol.
I gael rhagor o wybodaeth
Os hoffech gael gwybodaeth am:
- Gytundebau sydd gennym gyda sefydliadau eraill ar gyfer rhannu data personol
- Amgylchiadau ble byddwn yn gallu trosglwyddo eich data personol heb ddweud wrthych, er enghraifft, er mwyn atal a chanfod troseddau neu ar gyfer paratoi ystadegau yn ddienw
- Unrhyw faterion eraill a grybwyllir yn y siarter hon.
Cyswllt:
Uned Rheoli Gwybodaeth,
Cyfarwyddiaeth Systemau Gwybodaeth Busnes,
Gwasanaeth Erlyn y Goron,
Rose Court,
2 Southwark Bridge,
London, SE1 9HS
Gwneud Cwyn
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am y ffordd y cafodd eich data personol ei drin, ysgrifennwch at:
Uned Rheoli Gwybodaeth,
Cyfarwyddiaeth Systemau Gwybodaeth Busnes,
Gwasanaeth Erlyn y Goron,
Rose Court,
2 Southwark Bridge,
Llundain, SE1 9HS
Y Comisiynydd Gwybodaeth
I gael cyngor annibynnol ynghylch Deddf Diogelu Data 1998 cysylltwch â:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
Ffôn: 08456 30 60 60 or 01625 54 57 45
