Adborth a chwynion
Os ydych wedi cael profiad da neu brofiad gwael gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, rydym eisiau clywed gennych.
Trwy ddweud wrthym am brofiadau da, mae'n ein helpu i nodi arferion da a'n hannog i wella ein gwasanaeth.
Os cawsoch brofiad gwael gallwch wneud cwyn (os ydych yn rhan uniongyrchol o'r mater rydych yn dymuno cwyno yn ei gylch) neu rhowch sylwadau negyddol i ni (os nad ydych yn gysylltiedig â'r mater yn uniongyrchol).
Os ydych eisiau gwneud cwyn, y peth cyntaf i'w wneud yw cael gair â'chGwasanaeth Erlyn y Goron lleol neu â'r aelod o staff dan sylw. Fe fyddan nhw'n ceisio datrys y broblem ar unwaith.
Gallwch gwyno'n uniongyrchol wrthym ni hefyd..
Polisi Cwynion
Byddwn yn:
- Gwrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud.
- Ymchwilio i'r broblem.
- Os byddwn wedi gwneud camgymeriad byddwn yn:
- Cyfaddef hynny.
- Ymddiheuro.
- Cymryd camau i'w atal rhag digwydd eto.
- Os byddwn yn dod i'r casgliad nad ydym wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn egluro ein rhesymau wrthych.
- Os nad ydych yn fodlon â'n hesboniad byddwn yn dweud wrthych sut gallwch fynd â'r gwyn ymhellach.
Byddwn yn ymdrin ag adborth a chwynion mewn ffordd sensitif, yn deg a thrylwyr.
Mwy o wybodaeth am ein Polisi Cwyno
Am beth y gallaf wneud cwyn?

Os cawsoch gysylltiad uniongyrchol â Gwasanaeth Erlyn y Goron a'ch bod yn teimlo bod y profiad yn un gwael, gallwch gwyno am hynny.
Weithiau bydd pobl yn cwyno wrthym ni am broblemau gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, er enghraifft, pryderon am y ffordd y cafodd ymchwiliad ei drin, neu broblemau yn y llys sy'n rhan o gyfrifoldeb y gwasanaeth llys.
Yn yr achosion hyn byddwn yn dweud wrthych sut i anfon eich cwyn at y sefydliad cywir.
Weithiau bydd problemau yn gysylltiedig â mwy nag un sefydliad, er enghraifft yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Yn yr achosion hyn byddwn yn ceisio datrys y broblem a byddwn yn gweithio gyda'r sefydliad arall i roi ateb ar y cyd os gallwn.
Faint o amser sydd gennyf i wneud cwyn?

Dylech wneud cwyn am broblem cyn gynted â phosib.
Ni fyddwn yn ymdrin â chwynion am bethau a ddigwyddodd dros chwe mis yn ôl.
Pwy sy'n cael gwneud cwyn?
Os cawsoch gyswllt uniongyrchol â Gwasanaeth Erlyn y Goron gallwch wneud cwyn.
Os cawsoch gyswllt uniongyrchol â Gwasanaeth Erlyn y Goron gallwch wneud cwyn.
- Aelod o'ch teulu
- Grwp cefnogi
- Cynghorydd cyfreithiol
Os ydych eisiau gwneud cwyn am rywbeth a ddigwyddodd i rywun arall, yna fe wnawn ni geisio rhoi esboniad i chi. Byddwn yn gwneud hyn ar yr amod nad yw'n effeithio ar gyfrinachedd y bobl sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r gwyn neu am resymau cyfreithiol eraill. Byddwn yn cofnodi eich pryderon fel adborth negyddol.
Beth fydd yn digwydd i’m cwyn?
Pan fyddwch yn gwneud cwyn byddwn yn:
Cam 1
- Cofnodi eich cwyn.
- Byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich cwyn. Byddwn yn ceisio gwneud hyn o fewn 3 diwrnod gwaith.
- Anfon eich cwyn at y rheolwr yn y swyddfa ble digwyddodd y broblem.
- Ymchwilio i’ch cwyn.
- Os byddwn wedi gwneud camgymeriad byddwn yn:
- Cyfaddef inni wneud camgymeriad.
- Ymddiheuro.
- Cymryd camau i atal y camgymeriad rhag digwydd eto.
- Os byddwn yn teimlo nad ydym wedi gwneud camgymeriad byddwn yn egluro ein penderfyniad wrthych.
- Byddwn yn ceisio gwneud hyn o fewn 20 diwrnod gwaith i dderbyn eich cwyn.
Cam 2
- Os nad ydych yn fodlon â’n hesboniad rhaid i chi ddweud wrthym o fewn un mis i dderbyn ein hesboniad (fel arfer byddwn yn gwrthod ymdrin â chwynion a wneir y tu allan i’r terfyn amser hwn). Bydd uwch reolwr yn arolygu eich cwyn:
- Ar gyfer penderfyniadau cyfreithiol, Prif Erlynydd y Goron lleol fydd yn gwneud hyn.
- Ar gyfer materion eraill, y Rheolwr Busnes Rhanbarthol, neu uwch reolwr arall, fydd yn gwneud hyn fel arfer.
- Bydd yr uwch reolwr yn arolygu’r penderfyniadau a wnaed a phenderfynu a yw’n cytuno neu’n anghytuno â’r camau a gymerwyd.
- Bydd yr uwch reolwr yn egluro eu penderfyniad wrthych.
Cam 3
- Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gewch gan yr uwch reolwr rhaid i chi ddweud wrthym o fewn un mis i dderbyn ein hesboniad ar gam dau (fel arfer byddwn yn gwrthod ymdrin â chwynion a wneir y tu allan i’r terfyn amser hwn). Yna gall eich cwyn gael ei roi i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu’r Prif Weithredwr, neu i uwch reolwr a enwebir ganddynt.
- Dylech ddweud wrthym pam nad ydych yn fodlon â’r penderfyniadau a wnaethom a pham y dylai’r mater gael ei arolygu eto. Rhaid i chi wneud hyn trwy lythyr.
- Gall y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu’r Prif Weithredwr ofyn i’r gwyn gael ei harolygu’n llawn.
- Fe ddylech dderbyn ymateb o fewn 40 diwrnod gwaith.
- Dyma ddiwedd trefn gwynion ffurfiol Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol
- Os byddwch yn parhau’n anfodlon â’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cwyn gallwch ei chyfeirio at swyddfa’r Twrnai Cyffredinol.
- Ni fydd y Twrnai Cyffredinol yn arolygu’r penderfyniad a wnaethom ni.
- Bydd y Twrnai Cyffredinol yn penderfynu’n unig a ydym wedi ymdrin â’r gwyn yn gywir yn unol â’n polisi a’n trefn gwynion.

1.
1.
Lawrlwythwch y daflen adborth a chwynion mewn amryw o ieithoedd: