Croeso i CPS Cymru
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn gyfrifol am erlyn achosion troseddol a ymchwilir gan yr heddlu ar hyd a lled Cymru a Lloegr.
Mae'r CPS yng Nghymru yn gwasanaethu poblogaeth o dros dair miliwn o bobl ac mae ein timau lleol yn gweithio ochr yn ochr mewn partneriaeth gydaa'r heddlu yn ei rhanbarthau lleol: Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru. Hefyd, mae gennym uned achosion cymhleth (CCU) sy'n gweithio ar draws Cymru i erlyn amryw o droseddau trawsffiniol, cyfundrefnol a mwy difrifol.

